Mae o leiaf ddeg o bobol wedi cael eu lladd mewn marchnad brysur yng ngogledd Yemen ar ôl i Sawdi Arabia danio taflegryn ati.

Fe darodd y taflegryn farchnad Al-Thabet yn nhalaith Saada, sydd o dan reolaeth rebeliaid yr Houthis o Iran. Mae’r rhanbarth drws nesaf i’r ffin gyda Sawda Arabia.

Dywed Gweinidogaeth Iechyd yr Houthis fod y taflegryn wedi anafu 27 o bobol eraill.

Mae clymblaid Sawdi Arabia wedi bod yn brwydro’r Houthis fel rhan o lywodraeth sy’n cael ei adnabod yn rhyngwladol ers 2015 mewn rhyfel sydd wedi lladd degau ar filoedd o bobol.

Mae Sawdi Arabia yn wynebu beirniadaeth chwyrn am ymosodiadau sydd wedi lladd sifiliaid.

Yr Houthis sydd yn rheoli’r mwyafrif o Ogledd Yemen, gan gynnwys y brifddinas, Sanaa.

Mae’r gwrthdaro wedi rhoi miliynau mewn newyn ac wedi creu’r argyfwng dyngarol mwyaf dinistriol yn y byd.