Mae Plaid Cymru ar y blaen o dri phwynt mewn canlyniadau arolwg barn “hanesyddol” ar gyfer y Cynulliad.
Mae’r arolwg gan ITV a YouGov yn dangos bod Plaid Cymru ar 24%, tra bo’r Blaid Lafur wedi gostwng i 21% a’r Ceidwadwyr ar 19%.
Mae disgwyl i Blaid Cymru gipio seddi Aberconwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Gorllewin Caerdydd, Llanelli a Chastell-nedd, tra bo disgwyl i’r Blaid Lafur golli 11 sedd.
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr wedyn gipio Gogledd Caerdydd, Gŵyr, Dyffryn Clwyd, Bro Morgannwg a Wrecsam, tra bo gan y Blaid Ryddfrydol siawns o ennill Canol Caerdydd.
“Trobwynt”
Mae’r Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd yn dweud bod y canlyniadau hyn yn rhai “hanesyddol”, gyda Phlaid Cymru yn cyrraedd y brig mewn arolwg barn Cymreig am y tro cyntaf erioed.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae’r arolwg yn “drobwynt”
“Mae’r arolwg barn hwn yn un hanesyddol i Blaid Cymru,” meddai. “Mae’n drobwynt – mae pobol yng Nghymru yn gweld bod dyfodol gwell yn bosib.
“Does dim amheuaeth bod Plaid Cymru ar y ffordd i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.”
Y bleidlais etholaethol:
- Plaid Cymru – 24% (dim newid)
- Llafur – 21% (-4)
- Ceidwadwyr – 19% (+2)
- Plaid Brexit – 19% (+2)
- Democratiaid Rhyddfrydol – 12% (+3)
- Plaid Werdd – 4% (-1)
- Eraill – 2% (-1)
Y bleidlais ranbarthol:
- Plaid Cymru – 23% (+1)
- Llafur – 19% (-2)
- Ceidwadwyr – 18% (+6)
- Plaid Brexit – 17% (-6)
- Democratiaid Rhyddfrydol – 12% (+5)
- Plaid Werdd – 4% (-4)
- Eraill – 7% (dim newid)
Ar y cyfan, bydd y canlyniadau yn golygu bod gan y Blaid Lafur 17 sedd, Plaid Cymru 15 sedd, y Ceidwadwyr 11 sedd, y Blaid Brexit 10 sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol saith sedd.
San Steffan – cynnydd i’r Ceidwadwyr
Mae’r arolwg barn ar gyfer San Steffan yn un hynod hefyd, gyda’r Ceidwadwyr yn achub y blaen ar y Blaid Lafur yn dilyn ethol Boris Johnson yn arweinydd.
- Ceidwadwyr – 24% (+7)
- Llafur – 22% (-3)
- Plaid Brexit – 18% (-5)
- Democratiaid Rhyddfrydol – 16% (+4)
- Plaid Cymru – 15% (+2)
- Plaid Werdd – 3% (-2)
- Eraill – 1% (-4)
Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur ar ei lefel isaf erioed yng Nghymru, gyda’r Ceidwadwyr ar y blaen am y tro cyntaf ers 2017.
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr gipio seddi Alun a Glannau Dyfrdwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Gŵyr, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd a Wrecsam.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol wedyn siawns i ennill Ceredigion o Blaid Cymru, tra bydd Plaid Cymru yn cipio Ynys Môn oddi ar ddwylo’r Blaid Lafur.
Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn ennill isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yr wythnos hon.
Canlyniadau “digyffelyb”
Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, mae’r canlyniadau ar gyfer San Steffan yn rhai “hollol ddigyffelyb”, sydd hefyd yn dangos dirywiad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.
“Mae’r rhain yn ganlyniadau anhygoel, ac mewn nifer o ffyrdd yn hollol ddigyffelyb,” meddai.
“Er gwaethaf yr hyn sy’n edrych fel ‘Boris Bounce’ ar gyfer y Ceidwadwyr, sy’n werth 7% o bwyntiau, mae’r arolwg yn dangos i ba raddau mae dominyddiaeth y ddwy blaid fwyaf wedi dirywio yn ystod y misoedd diwethaf.
“Dyma’r ail arolwg yn olynol lle mae cyfran pleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr, gyda’i gilydd, yn is na 50%.”