Mae dwsin o bobol yn y ddalfa yn Cyprus wedi i ddynes o wledydd Prydain honni iddi gael ei threisio.

Mae’r ddynes 19 oed yn honni iddi gael ei threisio yn Ayia Napa, ac mae’r grŵp sydd wedi cael eu harestio yn dod o Israel.

Dyw’r awdurdodau ddim wedi datgelu sut oedd y grŵp yn nabod y ddynes, a does dim sicrwydd chwaith ynglŷn â sawl un oedd ynghlwm â’r achos yn uniongyrchol.

Yn ôl adroddiadau, mi fydd y dwsin yn ymddangos gerbron llys ardal Famagusta ar dydd Iau (Gorffennaf 18).

Mae Ayia Napa yn enwog am ei thraethau a’i chlybiau nos, ac mae’r dref yn denu llawer o dwristiaid ifanc.