Bydd cynghorwyr Gwynedd yn ystyried datgan eu cefnogaeth at annibyniaeth i Gymru yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18).

Hyd yma mae sawl un o gynghorau tref a chymuned y sir wedi datgan eu bod am i Gymru fod yn wlad annibynnol.

Ac os bydd Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo cynnig o gefnogaeth heddiw, nhw fydd y cyngor sir cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Y Cynghorydd Nia Jeffreys, sydd wedi cyflwyno’r cynnig sydd yn galw ar y Cyngor i “anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed”.

“Rhoi stop ar y miri”

“Mae awydd yn y gwynt am newid,” meddai Nia Jeffreys, “a chefnogaeth y bobl yn cynyddu yng nghanol llanastr llwyr San Steffan i ddelio’n aeddfed ac adeiladol gyda Brexit.

“Mae llais Cymru yn cael ei cholli yn Llundain, gyda gwleidyddion Torïaidd yn chwarae gemau gwleidyddol gyda’n bywydau ni a’n cymunedau ni, yma yng Ngwynedd.

“Mae’n amser rhoi stop ar y miri, a gosod ein stondin ein hunain, yma yng Nghymru.”

Cefndir

Cyngor tref Machynlleth oedd y cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth, ac mi ddilynodd cynghorau Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn fuan wedi hynny.

Bellach mae tua dwsin o gynghorau tref a chymuned wedi atseinio’r galw gan gynnwys cynghorau Caernarfon, Llanuwchllyn, a Thrawsfynydd.