Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr, sydd dan arweiniad y Democratiaid, wedi condemnio “sylwadau hiliol” Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn erbyn pedair merch yn y Gyngres.
Er gwaethaf honiad Donald Trump nad oes ganddo “asgwrn hiliol yn ei gorff” fe bleidleisiodd y Tŷ yn erbyn ei sylwadau.
Daw hyn ddeuddydd ar ôl i’r Arlywydd ddweud ar Twitter y dylai pedwar cynghreiriad “fynd yn ôl i’w gwledydd eu hunain”, er bod tair allan o bedair ohonynt wedi cael eu geni yn yr Unol Daleithiau.
Er nad oedd Donald Trump wedi enwi’r pedair, mae lle i gredu ei fod yn cyfeirio at y cynghreiriaid Alexandria Ocasio-Cortez o Efrog Newydd, Ilhan Omar o Minnesota, Ayanna Pressley o Massachusetts a Rashida Tlaib o Michigan.
Fe bleidleisiodd y Democratiaid o blaid condemnio Donald Trump o 240 pleidlais i 187 y Gweriniaethwyr.
Ymateb yr Arlywydd
Er gwaetha’r bleidlais, mae Donald Trump yn dweud ei bod yn “wych” gweld undod o fewn y Blaid Weriniaethol ynghylch y mater.
Ac mae’n cyhuddo’r Democratiaid o “fod yn briod â surni a chasineb”.
Ar ôl ennill y bleidlais o 187 i bedwar, mae’n dweud ei fod e wedi cael “tipyn o ddiwrnod”.