Mae pennaeth gorsaf radio leol yn nwyrain Affganistan yn dweud ei fod wedi’i chau i lawr yn dilyn cyfres o fygythiadau gan y Taliban yn yr ardal.
Mae Ramez Azimi, cyfarwyddwr gorsaf Samaa yn ninas Ghazni yn y rhanbarth o’r un enw, yn dweud iddo dderbyn nifer o alwadau ffôn, yn ogystal â nodiadau yn ei rybuddio rhag cario ymlaen i ddarlledu.
Mae’r Taliban yn rheoli nifer o ardaloedd oddi fewn i ranbarth Ghazni, ac roedd eu bygythiadau diweddaraf oherwydd fod yr orsaf yn cyflogi cymaint â 16 o fenywod.
Mae’r Taliban yn gwrthwynebu rhoi hawliau gwaith i fenywod, na’u hawliau i addysg chwaith.
Mae’r orsaf radio ynghau am bedwar diwrnod ar hyn o bryd. Dyma’r trydydd tro iddi gael ei chau i lawr yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Mae llefarydd ar ran y Taliban, ar y llaw arall, yn gwadu eu bod nhw wedi bygwth Samaa.