Mae miloedd o bobol wedi cael eu hebrwng allan o barti mewn gŵyl yn un o ynysoedd Croatia, wedi i dân gynnau mewn coedwig gerllaw.
Mae heddlu Croatia yn cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i glwb ar draeth Zrce yn gynnar iawn fore heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16) i ŵyl oedd yn digwydd yn Pag.
Does yna neb wedi cael ei anafu, meddai’r heddlu wedyn, ac mae’r fflamau bellach dan reolaeth.
Mae’r traeth dan sylw yn enwog am ei wyliau a’i bartïon.