Mae’r Unol Daleithiau’n paratoi ar gyfer storm drofannol Barry wrth iddi hyrddio i gyfeiriad talaith Louisiana yn ne’r wlad.
Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i warchod cartrefi rhag llifogydd wrth ddwyn i gof ddinistr Corwynt Katrina yn New Orleans 14 mlynedd yn ôl.
Mae ymylon storm Barry eisoes wedi achosi peth glaw a llifogydd yn Louisiana, gyda disgwyl iddi daro’r tir mawr o ddifrif fore Sadwrn.
Mae trigolion lleol yn dal i obeithio’r gorau ar ôl i arbenigwyr ddarogan y bydd afon Mississippi yn cyrraedd uchafbwynt o 5.2 metr yn New Orleans yn hytrach na’r 5.8 metr a gafodd ei ragweld yn wreiddiol. Mae’r morgloddiau sy’n gwarchod y ddinas yn amrywio o 6 i 7.5 metr o uchder.