Mae o leiaf 18 o bobl, gan gynnwys un o Brydain, wedi cael eu lladd mewn gwarchae ar westy yn Somalia.
Roedd o leiaf bedwar o eithafwyr Islamaidd wedi ymosod ar y gwesty yn Kismayo yn ne’r wlad neithiwr, gan gychwyn gyda ffrwydrad gan hunan-fomiwr mewn car y tu allan, a chyrch gan saethwyr yn dilyn.
Fe barhaodd y gwarchae drwy’r nos, gan ddod i ben y bore yma wedi i filwyr Somalia ladd pob un o’r ymosodwyr.
Mae’r grwp o wrthryfelwyr al-Shabab, sy’n gysylltiedig ag al Qaida, wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.