Mae angen i bobol wybod sut i baratoi’n well ar gyfer daeargrynfeydd, yn ôl llywodraethwr Califfornia, lle bu dau ddaeargryn yn ddiweddar.
Dywed Gavin Newsom fod angen i’r llywodraeth gryfhau systemau rhybuddion, ac y dylai trigolion wybod sut i baratoi ar gyfer y fath drychinebau naturiol.
“Mae’n alwad i ddeffro i weddill y dalaith a rhannau eraill o’r genedl, a bod yn gwbl blwmp ac yn blaen,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg.
Digwyddodd y daeargryn cyntaf ddydd Iau (Gorffennaf 4), a’r ail ddaeargryn y diwrnod canlynol oedd y mwyaf yn y dalaith ers ugain mlynedd.
Mae swyddogion yn rhybuddio y gallai’r dalaith deimlo’r sgil effeithiau am rai misoedd eto.
Chafodd neb ei ladd na’i anafu yn y daeargrynfeydd, oedd yn mesur 6.4 a 7.1 ac a oedd i’w teimlo mor bell i ffwrdd â Mecsico.
Ond cafodd adeiladau a ffyrdd eu dinistrio, a’r amcangyfrif yw fod gwerth dros $100m o ddifrod wedi’i achosi.
Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi addo arian i helpu’r gwaith o godi’r gymuned ar ei thraed unwaith eto.