Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad ar ddyn yn Llanelli fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 7).
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad ger y Met Bar yn y dref toc cyn 1 o’r gloch.
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn gwyn yn ei 20au, o gorffolaeth fawr, 5’10” a chanddo farf a gwallt golau.
Roedd e’n gwisgo crys-T gwyn â bathodyn tywyll ar ochr chwith ei frest.