Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn a fu farw pan darodd ei gerbyd tynnu ceir yn erbyn car ar ffordd A548 fore ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 6).

Tarodd cerbyd Shaun Buckley, 41 oed o Brestatyn, yn erbyn car Nissan Qashqai, ac fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Treffynnon am oddeutu 10.05yb.

Mae’r heddlu’n ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth.

Teyrnged

“Rydym ni fel teulu’n torri’n calonnau o golli Shaun,” meddai ei deulu.

“Roeddem ni’n ei garu’n fawr fel mab, partner, tad, brawd a ffrind.

“All geiriau ddim disgrifio’r golled rydym yn ei theimlo.

“Mae ein diolch twymgalon yn mynd i’r holl wasanaethau brys a frwydrodd mor galed i’w achub.

“Bydd yn byw yng nghalonnau a meddyliau pawb oedd yn ei adnabod a’i garu.”

Mae’r teulu wedi gofyn am lonydd i alaru.