Mae tri o bobol wedi cael eu twlcio gan deirw ar ddiwrnod cyntaf gŵyl rasys ac ymladd teirw Pamplona yn Sbaen.

Cafodd o leiaf bump o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Cafodd nifer o bobol driniaeth yn yr ysbyty lleol ar ddiwedd ras oedd wedi para dwy funud a 41 eiliad.

Rhedodd chwe tharw gyda’i gilydd dros bellter o 850 metr i ganol cylch ymladd yn y ddinas, ond fe gwympodd un tarw cyn rhedeg at y dorf.

Mae’r digwyddiad, sy’n gweld y teirw’n rhedeg yn y bore ac yn ymladd hyd farwolaeth yn y prynhawn, yn denu oddeutu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Anafiadau

Mae dyn 46 o Galiffornia wedi cael ei dwlcio yn ei wddf tua diwedd y ras, a’i fod e’n cael llawdriniaeth.

Cafodd dyn 23 oed o Kentucky a dyn 40 oed o Sbaen eu twlcio yn eu coesau, a chafodd dau ddyn arall o Sbaen anafiadau i’r pen.