Mae daeargryn sy’n mesur 7.1 ar raddfa Richter wedi taro rhannau helaeth o dalaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd adeiladau a ffyrdd eu dinistrio, nifer o bobol eu hanafu a thanau eu cynnau.
Fe ddaw ychydig ddiwrnodau ar ôl y daeargryn mwyaf yn y dalaith ers ugain mlynedd, oedd yn mesur 6.4 ar raddfa Richter.
Roedd yr ail ddaeargryn oddeutu 11 o filltiroedd i ffwrdd o’r un cyntaf yn Ridgecrest, ond fe gafodd ei deimlo mor bell i ffwrdd â Sacramento, Las Vegas a Mecsico.
Mae’r awdurdodau’n dweud na fu unrhyw un farw, ond fod nifer o bobol wedi cael eu hanafu.