Mae llys yn Cenia wedi dedfrydu dyn i oes o garchar, a dau ddyn arall i 41 mlynedd yr un dan glo, am fod yn rhan o ymosodiad ar brifysgol lle cafodd 148 o bobol eu lladd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar dir Prifysgol Garissa yn 2015.
Cofnodion ffôn, ynghyd â thystiolaeth llawysgrifen, a lwyddodd yn y diwedd i gysylltu’r tri dyn â’r digwyddiad.
Fe gafwyd y tri hefyd yn euog o fod yn aelodau o grwp Islamaidd eithafol al Shabab, sydd â’i ganolbwynt yn Somalia, y wlad drws nesa’ i Cenia. Al Shabab oedd wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Mae’r mudiad wedi cynnal nifer o ymosodiadau tebyg yn Cenia ers 2011, fel rhan o’r dial am i Cenia anfon milwyr i mewn i Somalia i ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr sy’n gysylltiedig ag al Qaida.