Mae dyn wedi dioddef anaf i’w cefn ac i’w goes a’i stumog ar ôl i siarc honedig ymosod arno yn Awstralia.

Roedd y dyn 54 oed yn nofio gyda ffrindiau ar Shelly Beach yng ngogledd Sydney cyn cael ei anafu, ond fe lwyddodd i nofio i greigiau cyfagos a seinio’r larwm.

Cafodd driniaeth yn y fan a’r lle a’i hebrwng i’r ysbyty yn syth, gyda’r awdurdodau yn dweud wrth y Pres Association ei fod mewn cyflwr sefydlog.

Mae’r dyn, o Manly ar harbwr Sydney, yn nofiwr môr brofiadol sydd wedi nofio Sianel Lloegr yn y gorffennol, mae Corfforaeth Ddarlledu Awstralia yn adrodd.

Yn ôl lluniau’r brathiadau’r Adran Diwydiannau Cynradd New South Wales siarc nyrs llwyd oedd hi, ond doedd dim modd darganfod ei faint.

Bu rhaid i Draeth Manly gerllaw, sy’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, fod ar gau am nifer o oriau ddydd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 2)