Mae tri dyn wedi cael eu harestio am gynllwynio ymosodiad ar dargedau yn Sydney o dan ddylanwad ISIS.

Roedd y targedau yn cynnwys adeiladau’r heddlu ac amddiffyn, llysoedd, eglwysi a chenadaethau diplomataidd, meddai’r heddlu.

Bu’r heddlu yn monitro dyn 20 oed o dan amheuaeth ar ôl iddo ddychwelyd i Sydney o Lebanon, yn ôl Heddlu Ffederal Awstralia.

Mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo o gynllunio ymosodiad brawychol a pharatoi i fynd i Affganistan gyda’r bwriad o gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ran ISIS.

Mae disgwyl i ddyn 23 oed gael ei gyhuddo o fod yn rhan o ISIS a chael 10 blynedd, ac mae disgwyl i ddyn 30 oed hefyd cael 10 blynedd am hawlio budd-daliadau yn anghyfreithlon.

Mae disgwyl i’r tri dyn ymddangos mewn llys yn Sydney fory (dydd Mercher, Gorffennaf 3).

Dyma’r 16eg ymosodiad brawychol mawr i gael ei rwystro gan yr heddlu yn Awstralia ers codi’r lefel bygythiad ym mis Medi 2014.