Mae glaw trwm yn ninas Mumbai yn India wedi achosi i wal ddymchwel yn ddarnau ar ben tai sianti a lladd o leiaf 15 o bobol ac anafu 66.

Fe ddisgynnodd wal arall mewn rhan arall o’r ddinas hefyd ac mae o leiaf dri o bobol wedi marw mewn llefydd eraill yn Mumbai wrth i’r ddinas baratoi am fwy o law.

Aeth nifer o dimau achub gyda cŵn yn archwilio’r ardal ar ôl i’r wal ddymchwel yn ystod y nos.

Mae tymor y monsŵn yn India yn dod â glaw trwm rhwng mis Mehefin a Medi gan achosi llifogydd, ac mae gweld aadeiladau yn cael eu dymchwel yn beth cyffredin wrth i law wanhau sylfeini.

Ddydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 29), fe gwympodd wal ar glwstwr o gytiau â thoeau tun gweithwyr a’u teuluoedd yn Pune yn dilyn glaw trwm, gan ladd o leiaf 16 o bobol.