Mae Gweinidog Tramor Iran wedi ei gythruddo a datganiad yr Unol Daleithiau ar raglen niwclear ei wlad.
Dywedodd y Tŷ Gwyn ar ddydd Llun (Gorffennaf 1): “Does dim amheuaeth for Iran, hyd yn oed cyn bodolaeth y cytundeb niwclear, fod eu bod yn torri’r termau.”
“O ddifrif??” oedd ymateb Gweinidog Tramor Iran, Javad Zarif fore heddiw (Dydd Mawrth, Gorffennaf 2) ar Twitter.
Ni wnaeth y Tŷ Gwyn ymhelaethu ar sut y gallai Iran dorri telerau’r cytundeb nad oedd wedi’i weithredu eto.
Roedd cytundeb niwclear Iran â phwerau’r byd yn 2015 yn golygu ei fod yn gorfod cyfyngu ar gyfoethogi wraniwm er mwyn cael gwared ar sancsiynau economaidd.
Tynnodd Arlywydd Donald Trump yr Unol Daleithiau allan o’r cytundeb y llynedd.
Fe ddatganodd gan swyddogion Iran eu bod wedi torri’r cytundeb drwy fynd heibio’r cyfyngiad ar y rhoddwyd ar ei bentwr o wraniwm.