Fe aeth protestwyr Hong Kong ati i godi fflag ymerodraethol gwledydd Prydain yn eu siambr ddeddfwriaethol ddoe (dydd Llun, Gorffennaf) ar ddydd nodi 22 mlynedd ers i’r diriogaeth ddychwelyd i fod o dan reolaeth Tsieina.

Wrth i’r protestwyr fentro adeilad deddfwriaethol y cyngor gan baentio sloganau democrataidd ar y waliau fuodd yr heddlu yn taflu nwyon dagrau arnynt.

Mae arweinydd y diriogaeth, Carrie Lam, wedi condemnio’r “defnydd eithafol o drais a fandaliaeth” gan y protestwyr.

Mae protestiadau yn galw ar Lywodraeth Hong Long i newid y cyfreithiau estraddodi er mwyn caniatáu i rai a ddrwgdybir cael eu hanfon i Tsieina i gael gwrandawiad llys.

Daw hyn hefyd yn dilyn ffrae rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol, Jeremy Hunt, a gweinidogaeth tramor Tsieina.

Ar ôl i Jeremy Hunt ddatgan ei gefnogaeth i’r diriogaeth a’r protestwyr, dywedodd swyddogion Beijing wrth wledydd Prydain i “adnabod ei le a rhoi diwedd ar chwarae gyda materion Hong Kong.”