Fe fydd y ddau ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Torïaid yn wynebu cwestiynau yng Ngogledd Iwerddon heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 2).
Mae disgwyl i Boris Johnson a Jeremy Hunt drafod eu cynlluniau Brexit pan ddaw un ohonyn nhw’n Brif Weinidog, ar eu hymweliad â Belffast.
Mae’r ddau yn gobeithio ennill cefnogaeth aelodau, ac mae ffîn Iwerddon a’r cytundeb wrth-gefn yn sicr o fof un bynciau llosg.
O ran y cytundeb hwnnw mae Jeremy Hunt yn honni bod y “dechnoleg yno nawr” i gynnig datrysiad tra mae Boris Johnson yn cynnig ei datrys hi yn ystod cyfnod gweithredu Brexit.
Mae disgwyl y bydd y ddau ymgeisydd yn trafod ymchwiliad i gyn-filwyr milwrol Gogledd Iwerddon, yn ogystal â’u haddewidion gwario yno.
Fe alwodd y ddau am fwy o warchodaeth gyfreithiol i filwyr a chyn-filwyr gwledydd Prydain dros y penwythnos.
Yn y cyfamser mae cyn arweinydd y Torïaid, William Hague, wedi datgan ei gefnogaeth i Jeremy Hunt.