Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio busnesau bod “amser yn prinhau” wrth baratoi ar gyfer Brexit.
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yna beryg o hyd am “Brexit anhrefnus”.
Maen nhw felly wedi cyhoeddi pum cam gweithredu ar y wefan ‘Paratoi Cymru’, sydd wedi ei sefydlu er mwyn cynghori busnesau ar nifer o wahanol faterion yn ymwneud ar Brexit.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mynnu eu bod nhw’n dal i alw am gynnal ail refferendwm, gan ychwanegu y byddan nhw’n cefnogi’r ymgyrch i aros.
“Hydref 31 yn nesáu yn gyflym”
Yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates, mae Brexit heb gytundeb am arwain at “oblygiadau enfawr” ar gyfer busnes a masnach yng Nghymru.
“Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn dangos y bydd economi’r DU rhwng 6.3% a 9% yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa heb gytundeb. Yn frawychus, bydd yr economi yng Nghymru 8.1% yn llai,” meddai Ken Skates.
“Yn wyneb hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib – gan weithio gyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru – i baratoi ar gyfer y canlyniad gwaethaf posibl hwn, a diogelu swyddi a thwf cynaliadwy.
“Rwy’n annog pob busnes a sefydliad yng Nghymru i baratoi ar frys – mae Hydref 31yn nesáu yn gyflym.”