Mae Gwarchodlu Chwyldroadol Iran wedi saethu un o drôns yr Unol Daleithiau, yn ôl asiantaeth newyddion IRNA y wlad sy’n cael ei redeg gan y wladwriaeth.
Dywed IRNA fod y drôn wedi cael ei daro ar ôl iddi fentro mewn i ofod awyr Iran ger ardal Kouhmobarak yn nhalaith Hormozgan yn ne Iran.
Drôn Hawk RQ-4 Global oedd hi yn ôl yr asiantaeth wrth iddi enwi’r Gwarchodwr Chwyldroadol, sy’n gyfrifol am amddiffyn Iran.
Mae’r Capten Bill Urban, llefarydd Adran Rheoli Ganolog Unol Daleithiau, roi sylw ar y mater pan ofynnwyd iddo a oedd y drôn wedi cael ei saethu i lawr.
Er hynny, dywedodd wrth The Associated Press: “Nid oedd drôn dros diriogaeth Iran.”
Teinsiynau cynyddol
Daw’r adroddiadau yng nghanol cyfnod o densiynau mawr rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.
Ddydd Llun (Mehefin 17) cyhoeddodd asiantaeth niwclear Iran eu bod am gyfoethogi eu lefelau wraniwm o hyd at 20%, a fyddai’n mynd yn groes i’r cytundeb.
Ddiwrnod yn ddiweddarach (Dydd Mawrth, Mehefin 18) cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod yn anfon tua 1,000 o filwyr ychwanegol i’r Dwyrain Canol i ddelio â’r “bygythiadau cynyddol” yn Iran.