Mae tua 300,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wrth i arfordir gorllewinol India baratoi ar gyfer tywydd garw.

Mae disgwyl i Seiclon Vayu, sef yr enw Hindi am wynt, gyrraedd yr ardal yn ystod y dydd heddiw (ddydd Iau, Mehefin 13), ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r stormydd mwyaf pwerus eleni.

Yn ardal Veaval, sy’n lleoliad pwysig ar gyfer y diwydiant pysgota yn India, mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm eisoes wedi taro’r traethau, gan achosi difrod i gychod pysgota.

Mae’r heddlu lleol wedi ceisio annog pobol leol i adael eu cartrefi ac i ffoi at ddiogelwch.

Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd cyflymder o 112 milltir yr awr wrth i’r seiclon symud ar hyd yr arfordir tuag at orllewin Pacistan.