Mae tua ugain o bobol wedi eu hanafu yn nwyrain yr Almaen o ganlyniad i dywydd garw.

Yn ôl un adroddiad, cafodd wyth person eu hanafu mewn parti priodas awyr agored yn ardal Blankensee yn y gogledd-ddwyrain nos Fercher (Mehefin 12), pan syrthiodd cangen ar eu pennau.

Yn ninas Berlin, cafodd 11 o bobol eu hanafu wedi i goeden ddisgyn ar grŵp o bobol a oedd yn dathlu yn yr awyr agored, ac fe ddisgynnodd coeden arall wedyn ar gerbyd.

Bu’n rhaid atal trafnidiaeth gyhoeddus am gyfnod o ddwyawr yn y brifddinas neithiwr o ganlyniad i’r storm, ac roedd oedi yn parhau y bore yma yn ogystal.

Yn ardal Magdeburg, sydd tua 96 o filltiroedd i’r de-orllewin o Berlin, fe wnaeth mellt achosi difrod i adeilad, ond chafodd neb eu hanafu.