Mae yna ddisgwyl am ragor o gynnwrf yn Hong Kong wrth i lywodraeth y rhanbarth fwrw ymlaen gyda chynlluniau i newid y gyfraith fel bod modd trosglwyddo pobol i ddwylo’r awdurdodau yn Tsieina.

Mae’r cynlluniau arfaethedig yn achos cynnen yn y rhanbarth, gyda nifer yn poeni fod y cam yn ymgais gan Lywodraeth Tsieina i gael mwy o reolaeth tros Hong Kong.

Bwriad arweinydd y rhanbarth, Carrie Lam, yw cyflwyno’r mesur gerbron deddfwrfa’r rhanbarth yr wythnos hon (dydd Mercher, Mehefin 12).

Mae llywydd y ddeddfwrfa, Andrew Leung, hefyd wedi cadarnhau y bydd gwleidyddion yn cael cyfle i bleidleisio ar y mesur ar Fehefin 20.

Mae heddlu Hong Kong eisoes wedi cau strydoedd o gwmpas y ddeddfwrfa ac adeiladau’r llywodraeth wrth i brotestwyr dyrru i’r strydoedd.

Yn ôl adroddiadau’r wasg yn lleol, mae miloedd o heddweision ychwanegol yn barod i wynebu protestwyr a fydd yn ail-afael yn y protestio nos Fawrth (Mehefin 11).

Mae rhai busnesau hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw ynghau ddydd Mercher, ac mae adroddiadau bod myfyrwyr am osgoi mynychu gwersi.