Mae gweinidog cyfiawnder Brasil wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio ag erlynwyr pan oedd yn farnwr yn yr achos a arweiniodd at garcharu’r cyn-alywydd, Luiz Inacio Lula da Silva.

Mae galwadau am ymchwiliad yn dilyn cyhoeddi erthyglau gan gylchgrawn newyddion ar-lein The Intercept sy’n datgelu negeseuon preifat rhwng Sergio Moro a’r criw y tu ôl i ‘Ymgyrch Car Wash’.

Fe gafodd Luiz Inacio da Silva ei garcharu ym mis Ebrill 2018 a’i wahardd rhag rhedeg am yr arlywyddiaeth eto yn etholiad mis Hydref.

Mae dwsinau o wleidyddion eraill a phrif weithredwyr busnes hefyd wedi’u carcharu o ganlyniad i’r ymchwiliad a gafodd ei arwain gan Sergio Moro, sydd bellach yn weinidog cyfiawnder y wlad.

Mae Cymdeithas Bar Brasil wedi galw am atal yr holl erlynwyr dan sylw “fel y gall yr ymchwiliad fynd rhagddo heb unrhyw anhawster”.

Ddydd Llun yr wythnos hon (Mehefin 10) fe ddywedodd swyddfa’r erlynwyr ffederal eu bod wedi cael eu targedu gan hacwyr sydd wedi bod yn clonio eu ffonau symudol ers mis Ebrill.