Mae’r uchel lys yn Botswana wedi gwrthod darnau o’r gyfraith sy’n gwneud perthynas hoyw yn anghyfreithlon yn y wlad.

Mae barnwyr wedi galw’r darnau sy’n bygwth saith mlynedd o garchar ar hoywon yn anghyfansoddiadol.

Daw’r dyfarniad hanesyddol lai na mis ar ôl i’r uchel lys yn Cenia wrthod darnau o gyfraith debyg yn y wlad honno.

Mae gan sawl gwlad ar gyfandir Affrica gyfreithiau sy’n gwneud perthynas un rhyw yn anghyfreithlon.

Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r cyfreithiau yn dweud bod y gymuned hoyw yn agored i gamdriniaeth a gwahaniaethu o’u herwydd, gan ei gwneud yn anodd iddyn nhw gael mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu yn Botswana, Legabibo, mae’r cyfreithiau yn mynd yn groes i “urddas sylfaenol dyn”.