Mae gwlad Groeg yn wynebu etholiadau cyffredinol ar Orffennaf 7 – dri mis ynghynt na’r disgwyl – wedi i’r arlywydd dderbyn cais gan y prif weinidog i ddileu’r senedd yn dilyn etholiadau Ewrop y mis diwethaf.
Yn ystod cyfarfod byw gyda’r arlywydd, Prokopis Pavlopoulos, fe alwodd y prif weinidog, Alexis Tsipras, am etholiad cyffredinol cynnar er mwyn osgoi misoedd o ymgyrchu a allai beryglu dyfodol y wlad.
Yn etholiadau Ewrop ar Fai 26, fe gollodd plaid yr arlywydd o fwy na 9% i’r brif wrthblaid geidwadol.
Bwriad yr arlywydd yw aros yn ei swydd nes y bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal, ac mae disgwyl iddo benodi rhai gweinidogion dros-dro i ymgymryd â rhai o swyddi allweddol y cabinet.
Mae’r marchnadoedd arian wedi ymateb yn ffafriol i’r syniad o etholiad cyffredinol, ac mae cynnydd io 3.3% wedi bod yn y farchnad stoc.