Mae’r gwaith wedi dechrau o godi llong bleser o wely afon Donaw, wedi iddi suddo ddiwedd y mis diwethaf.
Mae gweithwyr i’w gweld ger Pont Margit yn ninas Bwdapest y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 11) yn agos at y man lle suddodd y llong ar Fai 29 yn dilyn gwrthdrawiad â llong arall.
Cafodd 19 o bobol, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Dde Corea, eu lladd o ganlyniad i’r digwyddiad, ac mae wyth o bobol yn dal i fod ar goll.
Mae ymdrechion i chwilio am y bobol golledig wedi carl ei ohirio, gan fod lefel y dŵr yn rhy uchel ar hyn o bryd.
Mae capten y llong arall a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, sef y Viking Sigyn, wedi bod yn y ddalfa ers Mehefin 1.