Mae cyn-nyrs o’r Almaen oedd yn mwynhau achosi ataliad y galon yn ei gleifion oherwydd y “boddhad o’u hadfywio”, wedi cael ei garcharu am oes am ladd 85 o bobol.

Cafodd Niels Hoegel, 42, ei garcharu gan lys yn Oldenburg yng ngogledd orllewin yr Almaen a aeth yn groes i’r arfer o garcharu troseddwyr am gyfnod o 15 mlynedd, gan ddweud nad oedd yn ddigon yn yr achos hwn.

Fe ddigwyddodd y llofruddiaethau tra’r oedd Niels Hoegel yn gweithio mewn dau ysbyty rhwng 2000 a 2005.

Cafodd ei gyhuddo o gant o lofruddiaethau yn wreiddiol, er mai dim ond 85 ohonyn nhw oedd sail i’r achos yn ei erbyn.

Mewn datganiad ar ddiwedd yr achos a barodd saith mis, ymddiheurodd Niels Hoegel am y boen a’r dioddefaint yr oedd wedi’i achosi trwy ei “weithredoedd ofnadwy”.