Mae Senedd Gwlad Thai wedi sicrhau digon o bleidleisiau i Prayuth Chab-ocha, a ddaeth i rym gyda’i fyddin yn 2014, aros yn arweinydd.

Yn ôl cownt answyddogol, cafodd ei enwebu gan blaid Palang Pracharath – sydd hefyd a chefnogaeth y fyddin, a dim ond un gwrthwynebydd oedd yn sefyll yn ei erbyn, sef Thanathorn Juangroongruangkit o’r Future Forward Party sy’n gwrthwynebu pleidiau milwrol.

Wedi i’r holl bleidleisiau wedi’u cyfrif, roedd gan Prayuth Chab-ocha 498 o bleidleisiau i gymharu â 244 Thanathorn Juangroongruangkit, ac mae’r cownt swyddogol yn parhau.

Fe enillodd plaid Palang Pracharath 116 o seddi yn y Tŷ, sef yr ail fwyaf, yn etholiadau mis Mawrth.

Mae aelodau’r Senedd wedi cael eu dewis gan blaid Prayuth Chab-ocha ac yn cynnwys ffigurau o’r fyddin.