Mae undebau llafur yn dweud iddyn nhw gael eu dychryn pan ddaeth gwahoddiad iddyn nhw fynd i bencadlys cwmni Ford yn ne Lloegr heddiw (dydd Iau, Mehefin 6) i glywed am ddyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r safle yn cyflogi 1,700 yn ne Cymru, gyda mwy na hynny yn ddibynnol ar y ffatri am gontractau cyflenwi.

Mae swyddogion Ford wedi hedfan o’r Unol Daleithiau i Loegr i dorri’r newyddion mewn cyfarfod heddiw – a dydyn nhw’n dweud nac yn awgrymu dim o flaen llaw.

Y disgwyl yw y bydd cyhoeddiad am hanner dydd ac, yn ôl arbenigwyr ar y diwydiant ceir, mae’r disgwyliadau wedi newid o golli swyddi i gau’r ffatri yn llwyr.

“Trychineb”

“Fe fydd Unite yn cyfarfod gyda Ford peth cyntaf fore fory ac yn gwneud sylw pellach unwaith rydyn ni’n cael gwybod am unrhyw gyhoeddiad,” meddai llefarydd undeb Unite.

“Ein blaenoriaeth yw swyddi ein haelodau, y cymunedau a bywoliaethau yn y gadwyn cyflenwi mae Ford Pen-y-bont yn cefnogi.”

Yn ôl Trefnydd Rhanbarthol undeb GMB, Jeff Beck, nid oes cyhoeddiad wedi ei wneud eto.

“Os yw ein pryderon mwyaf yn cael ei gadarnhau fe fydd yn golygu i’n haelodau ym Mhen-y-bont a’r gymuned ehangach,” meddai.

“Y peth eironig yw bod yr Arlywydd Donald Trump yn cyfarfod gyda Phrif Weinidog gwledydd Prydain, Theresa May, wythnos yma ac yn trafod perthynas arbennig a chytundeb masnach rhwng y ddwy wlad.”

Os yw’r ffatri yn cau, meddai Jeff Beck, mae’n debygol y byddai’n cael ei chymryd i Fecsico gan gwmni Americanaidd.

Bygythiad

Mae ffatri Pen-y-bont wedi bod o dan fygythiad oherwydd llai o alw am ddau fath o i injan mae’n creu.

Mae hi wedi bod yno ers 40 blynedd ers agor yn 1980 ar ardal 60 acr.

Fe gyhoeddodd Ford fis diwethaf ei fod yn cael gwared ar 7,000 ar draws y byd, gyda hyd at 550 i’w disgwyl yng ngwledydd Prydain.