Mae bron i hanner miliwn o swyddi gweithgynhyrchu wedi cael eu colli yng ngwledydd Prydain dros y degawd diwethaf, mae ymchwil newydd yn dangos.

Yn ôl undeb y GMB mae cyflogaeth yn y sector wedi cael ei dorri o 18% ers 2008.

Roedd 3.4 miliwn o swyddi mewn cwmniau gweithgynhyrchu yn y flwyddyn honno ond fe ddisgynnodd hynny i 2.9m y llynedd, meddai’r undeb.

Cafodd yr adroddiad ei rannu cyn y cyhoeddiad heddiw ble mae disgwyl i Ford ddweud ei fod yn cau ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Mae’r hanner miliwn o swyddi a gollwyd mewn deng mlynedd wedi bod yn ddinistriol i gymunedau ac oni bai fod camau’n cael eu cymryd, mae’n debyg bod y gwaethaf i ddod,” meddai Jude Brimble, swyddog cenedlaethol GMB.

“Yn anffodus, mae gan y Llywodraeth hon hanes o fethu â chefnogi gweithgynhyrchu yng ngwledydd Prydain.”