Mae cwmni ceir Renault yn llusgo’i draed cyn dod i benderfyniad ynglyn â chynnal trafodaethau uno gyda chwmni Fiat Chrysler.

Mae bwrdd rheoli Renault yn dweud, ar ôl cyfarfod yn y pencadlys yn ninas Paris, y byddan nhw’n cyfarfod eto heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5) er mwyn trafod cynnig “diddorol” Fiat Chrysler i uno.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yn wyneb pwysau mawr gan lywodraeth Ffrainc ac undebau llafur, ac mae’n codi cwestiynau hefyd ynglŷn ag effaith y gallai’r symudiad ei gael ar gytundeb Renault gyda Nissan a Mitsubishi yn Japan.

Fe allai uno Renault gyda Fiat Chrysler newid siâp y diwydiant ceir ledled y byd, gan fod Renault yn buddsoddi llawer ar hyn o bryd mewn ceir trydan a rhai di-yrrwr.

Pe bai’r uno’n digwydd, Renault-Fiat Chrysler fyddai trydydd cwmni ceir mwya’r byd, ar ôl Volkswagen a Toyota. Mae’n cynhyrchu 8.7 miliwn o gerbydau bob blwyddyn.