Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyfarfod ag arweinydd y Brexit Party yn ystod ei ymweliad â gwledydd Prydain.

Ac mae Nigel Farage yn dweud iddo ef a Donald Trump gael “cyfarfod da” a bod yr arlywydd “wir yn credu yn Brexit”.

Fe gafodd y cyfarfod rhwng y ddau ffrind ei gynnal yn Winfield House, cartref llysgennad yr Unol Daleithiau yn Llundain.

“Dw i’n meddwl y byddai’r ddwy ochr yn cytuno i ni gael cyfarfod da iawn, iawn, iawn,” meddai Nigel Farage wedyn.

“Yn amlwg, cyfarfod preifat oedd o, ond mi alla’ i ddweud fod Donald Trump mewn hwyliau da a’i fod o’n frwd iawn dros Brexit.

“Mae’n credu mai dyna’r peth iawn ar gyfer y wlad hon, ac mae’n reit bryderus o weld faint o amser y mae’n gymryd i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Yn ôl Nigel Farage. fe ddaeth allan o’r cyfarfod gydag arlywydd yr Unol Daleithiau dan yr argraff fod America yn barod i drafod cytundeb masnach gyda Phrydain.