Mae gweinidog Tai llywodraeth Prydain, Kit Malthouse, wedi tynnu allan o’r ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol, wrth i’r blaid newid y rheolau gan ei gwneud hi’n fwy anodd i ymgeiswyr llai amlwg sefyll.

Mae nifer yr ymgeiswyr am yr uchel swydd bellach i lawr i 11, wrth i James Cleverly hefyd dynnu ei enw’n ôl.

Mae Kit Malthouse yn dweud ei fod yn “realydd” ac mae’n cydnabod bod angen i’r ras hon “fod drosodd yn gyflym”.

Fe fu cyfarfod o’r Pwyllgor 1922 a bwrdd rheoli’r blaid er mwyn penderfynu ar y rheolau ar gyfer y ras. Y disgwyl yw y bydd arweinydd newydd wedi’i ddewis yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Mehefin 22.

Er mwyn delio â nifer uchel o ymgeiswyr, mae angen i bob un bellach sicrhau cefnogaeth gan wyth Aelod Seneddol yn hytrach na’r ddau oedd ei angen yn 2016.

Ac er mwyn aros yn y ras, mae angen i ymgeiswyr ennill o leia’ 16 o bleidleisiau yn y balot cyntaf, a 32 yn yr ail falot. er mwyn cyflymu’r broses o ddod â nifer yr ymgeiswyr i lawr i ddau.

Fe fydd balot cyntaf o’r Aelodau Seneddol yn digwydd ar Fehefin 13, gyda pleidleisiau eraill wedi’u trefnu ar gyfer Mehefin 18, 19 a 20 .

Fe fydd yr enillydd – a Phrif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig – yn cael ei ddewis gan aelodau’r blaid Geidwadol, o blith y ddau enw sydd yn yr het ar ddiwedd y broses.