Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi enw’r bachgen yn ei arddegau a gafodd ei ladd wedi i gar wedi’i ddwyn fynd ar dân yn ninas Derry.

Ei enw oedd Caoimhin Cassidy, 18 oed, ac fe gafodd ei gorff ei ganfod y tu mewn i gerbyd Mazda 6 coch yn ystod oriau mân dydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 1).

Roedd y car wedi’i ddwyn o dŷ yn Oakfield Crescent yn gynharach y noson honno. Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddelio â’r car ar dân am 4.15yb.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n gwybod fod y car wedi croesi’r ffin i County Donegal nifer o weithiau cyn iddo fod mewn gwrthdrawiad.