Mae gan y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb tuag at “blant diniwed” y jihadis sydd wedi mynd o wledydd Prydain i ymladd mewn gwledydd fel Syria, yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Penny Mordaunt.

Ond ar yr un pryd, mae’r gweinidog yn dweud fod dod â’r plant yn ôl i wledydd Prydain yn debygol o brofi’n “broblemus” ac y byddai angen caniatad eu rhieni cyn gwneud hynny.

“Efallai y bydd y sefyllfa fel ag y mae hi ar hyn o bryd, lle mae cael at y plant yma yn anodd, yn newid dros amser,” meddai. “Dydan ni jyst ddim yn gwybod.

“Dw i’n credu y byddai pobol Prydain yn cytuno’n llwyr â fi bod ganddon ni gyfrifoldeb am y plant bach yma, ond na fyddai’n syniad da i ni ymyrryd a gwneud sefyllfa’r wlad yma yn llai diogel.

“Wrth gwrs, hyd yn oed os ydan ni’n derbyn ein cyfrifoldeb, dydi hi ddim bob amser yn bosib gweithredu ar lawr gwlad…”