Mae clefyd y galon sy’n gyfrifol am y nifer mwyaf o farwolaethau yng ngwledydd Prydain, er bod y nifer wedi haneru bron mewn degawd.

Yn ôl astudiaeth gan gan Imperial College, Llundain fe fu cwymp yn y gyfradd farwolaethau o 80 ym mhob 100,000 i 46 ym mhob 100,000 rhwng 2005 a 2015.

Llai o ysmygu sydd yn gyfrifol am y gostyngiad ond gordewdra, clefyd siwgwr Teip 2 a phwysau gwaed uchel sy’n ei gadw’n uchel.

Mae clefyd y galon yn parhau i achosi dwbwl y marwolaethau sydd o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint – sef yr ail laddwr mwyaf yn 2015.

Storc oedd yn drydydd yng ngwledydd Prydain, gyda 24 o bob 100,000 yn marw o ganlyniad.