Mae wyth dringwr, gan gynnwys pedwar o bobol o wledydd Prydain, ar goll ym mynyddoedd Himalaya India.
Roedden nhw’n dringo mynydd Nanda Devi, ail fynydd uchaf y wlad, pan aethon nhw ar goll.
Mae lle i gredu y bydd y chwilio’n parhau yfory (dydd Llun, Mehefin 2), ar ôl i’r ymdrechion gael eu gohirio o ganlyniad i’r tywydd.
Roedd pryderon am y dringwyr ar ôl iddyn nhw fethu â dychwelyd i ganolfan ddydd Gwener (Mai 31).
Mae’r Swyddfa Dramor yn trafod y sefyllfa ag awdurdodau India, ac yn dweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w helpu.