Mae Ciwba yn cyfreithloni rhwydweithiau wi-fi preifat, ac ar fin caniatau mewnforio offer cyfrifiadurol a fydd yn llacio ei rheolau caeth ar ddefnydd o’r rhyngrwyd.
Fe fydd yn ei gwneud hi’n bosib i filoedd o drigolion a oedd wedi adeiladu eu cyfrifiaduron eu hunain gydag offer wedi’i smyglo i fewn i’r wlad, i’w brynu’n gyfreithlon.
Mae’n ymddangos hefyd fod y ddeddfwriaeth yn caniatau i fusnesau ddarparu gwasnaethau rhyngrwyd i’w cwsmeriaid, fel rhan o chwyldro technolegol.
Ond, tra bo’r gyfraith newydd yn rhoi’r hawl i bobol Ciwba gysylltu â’r we gyda’u hoffer eu hunain, a rhannu eu signal gydag eraill, dydi hi ddim yn llacio gafael y wladwriaeth ar reolaeth o’r rhyngrwyd.
Etecsa ydi’r unig ddarparwr ar yr ynys.