Mae oedolyn a phlentyn wedi marw, a ac 16 o bobol wedi eu hanafu, ar ôl i ddyn ymosod ar grŵp o
bobol yn Japan.
Roedd y dyn, a oedd yn ei 40au neu 50au, wedi ymosod ar grŵp o ferched ysgol mewn gorsaf fws ger
Parc Noborito yn ninas Kawsaki.
Yn ôl adroddiadau, roedd yn cario cyllyll yn ei ddwy law yn ystod y digwyddiad.
Mae’r awdurdodau bellach yn credu bod yr ymosodwr wedi marw, ond dydyn nhw ddim wedi
cyhoeddi heno na dweud beth oedd ei fwriad wrth gyflawni’r weithred.