Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn ifanc farw’n sydyn yn ninas Caerdydd brynhawn ddoe (dydd Llun, Mai 27).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i goedlan ger Parc Trelái am tua 4yp.

Er gwaethaf ymdrechion i achub y llanc, 22, a oedd yn dod o’r ardal leol, fe fu farw yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.