Mae angen i Gaerfyrddin “ddathlu pob pennod” o’i hanes – hyd yn oed yr hen amddiffynfa oedd yn gwarchod tiroedd y Goron ganrifoedd yn ôl.

Dyna farn aelod o Gymdeithas Ddinesig y dref, wrth i gwmni archfarchnad Lidl wneud cais i godi siop ar y twmpath ar lan ogleddol afon Tywi.

Cafodd amddiffynfeydd eu codi o amgylch Caerfyrddin yn 1643 er mwyn cadw’r ardal ym meddiant y Goron, a chanrifoedd yn ddiweddarach mae eu holion yn dal yno.

Lidl

Mae cwmni Lidl yn bwriadu adeiladu archfarchnad ar ben y twmpath – ar hen safle swyddfeydd yr heddlu – ac mae disgwyl penderfyniad ar y cais yn y dyfodol agos.

Pryder y Gymdeithas Sifil yw y gallai’r gwaith adeiladu amharu ar y ffosydd ger y twmpath, ac mae eu his-gadeirydd, Mary Thorley, am i’r henebion gael eu “hamddiffyn”.

Gan dynnu sylw at adeiladau hanesyddol y dref, mae’n awgrymu bod rhai yn cael eu hesgeuluso yn fwy nag eraill. Ac mae’n dadlau y dylai pob heneb gael ei pharchu yn yr un modd.     

“Hoffwn pe baen ni’n dathlu pob pennod o’n hanes,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn sôn am y Rhufeiniaid, ac wedyn mae yna gap mawr wedi hynny. Ond mae yna sawl pennod i’n hanes, ac mae’r gwrthgloddiau yma yn rhan o hynny. Mae angen i ni fanteisio ar hyn.

“Mae yna gyfyngiad ar yr hyn gall y Cyngor Tref ei wneud. Ond tybed a ydy’r Cyngor Sir yn barod i fuddsoddi yn y dreftadaeth yna?”

Gwybodaeth

Roedd arfer bod arwyddion gwybodaeth ger y ffosydd, yn ôl Mary Thorley, ac mae’n dweud y hoffai weld y rheiny’n dychwelyd.

“Mae angen [i’r henebion] gael eu dehongli yn y ffordd iawn,” meddai.

“Mae angen byrddau dehongli yno er mwyn esbonio’r hyn sydd yno i bobol. Ar hyn o bryd mae jest yn edrych fel cyfres o ffosydd.

“Byddai person cyffredin, neu berson sydd ddim o Gaerfyrddin, ddim yn medru eu gwerthfawrogi, pe baen nhw’n cerdded heibio.”

Gan dynnu sylw at hanes yr amddiffynfeydd, mae’n egluro bod Caerfyrddin wedi bod dan warchae yn ystod Rhyfel Cartref yr 17eg ganrif.

Cafodd y dre ei gipio sawl gwaith gan luoedd y brenin a lluoedd y senedd, meddai,  ac ar un adeg roedd yr amddiffynfeydd yn ymestyn “dros ogledd y dre”.

Y cynllun

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin eisoes wedi argymell bod cynghorwyr yn cymeradwyo cynllun Lidl.

Bydd angen i’r Cyngor yn ogystal â Chadw – corff treftadaeth – rhoi sêl bendith i gais y cwmni, cyn bod modd bwrw ati â’r gwaith adeiladu.

Dyw’r Gymdeithas Ddinesig ddim yn gwrthwynebu yn gynllun yn llwyr, meddai Mary Thorley, ond maen nhw’n pryderu y byddai maes parcio’r archfarchnad yn “tresbasu” ar y ffosydd.

“Dydyn ni ddim yn dweud na ddylai bod Lidl yn mynd yno,” meddai.

“Ond rydym yn credu dylai bod yr heneb hynafol yma – unigryw yng Nghymru, ac o bosib yn unigryw yn y Deyrnas Unedig – yn cael ei hamddiffyn.

“Ac mae’n werth nodi bod gan heneb hynafol statws uwch nag adeilad Gradd I. Mae modd newid adeilad Gradd I. Ond ddylai bod heneb ddim yn cael ei gyffwrdd o gwbwl.”