Thema’r GwyddionLe eleni yw ‘Y Môr’ ble mae cyfle i ymwelwyr fwynhau arlwy amrywiol o weithgareddau o fyd gwyddoniaeth, technoleg a digidol.
Prifysgol Abertawe sy’n noddi’r babell unwaith eto, a’u gobaith yw addysgu plant Cymru sut i gael dyfodol di-blastig.
“Edrych ar effaith yr amgylchedd, ac ar y môr fel cynefin o amgylch Cymru yw thema Gwyddonle Prifysgol Abertawe eleni,” meddai’r Dr Gethin Thomas o Ysgol Bioleg y Môr Prifysgol Abertawe.
Dyfodol di-blastig
Yn ôl Dr Gethin Thomas mae’n “frawychus” faint o blastig sydd i’w ddarganfod yn ein moroedd.
“Gall deunydd plastig aros yn y môr am ganrifoedd. Maen nhw’n torri lawr i micro-plastigiau sydd wedyn yn gallu mynd mewn i weoedd bwyd ac yn y pendraw ni’n bwyta fe yn ôl.
“Mae’n hynod o bwysig, yn enwedig i blant a’r cenhedloedd newydd sylweddoli bod y broblem hon gyda ni.
“Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth amdano fe ac mae’n rhaid i ni leihau faint o blastig rydyn ni’n defnyddio.”
“Byrdymor yn curo’r hirdymor”
Mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu a dwi’n gobeithio wrth siarad gyda phlant er mwyn pwysleisio pwysigrwydd ailgylchu, mae Dr Gethin Thomas yn esbonio.
“Ond Dwi’n teimlo bod llawer o bethau tymor byr yn cael eu blaenoriaethu dros y pethau hirdymor yng Nghymru,” meddai.
Cafodd cynllun Morglawdd Abertawe ei wrthod gan Lywodraeth Cymru’r llynedd, rhywbeth sydd yn rhan o’r drafodaeth ehangach ynghylch dyfodol gwyrdd y wlad..
“Rwy’n deall bod y gost yn uchel ond hefyd mae bywyd y prosiect yna yn un hir – felly fase hi wedi bod yn para am hir yn creu egni glan.”