Mae yna “arbedion sylweddol” wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn un “lwyddiannus a llewyrchus”, meddai prif drefnydd yr ŵyl.
Mae’r mynediad i’r maes, sydd wedi ei leoli yn ardal y bae, yn rhad ac am ddim eleni, a hynny am y tro cyntaf erioed yn hanes Eisteddfod yr Urdd. Yr unig eithriad yw bod oedolion yn gorfod talu er mwyn gwylio’r cystadlu yng Nghanolfan y Mileniwm.
Cafwyd trefniant tebyg gan yr Eisteddfod Genedlaethol pan ymwelodd hi â’r un safle fis Awst y llynedd, ond daeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod yr ŵyl honno wedi gwneud colled ariannol o bron i £300,000.
“Cynllunio i beidio â gwneud colled”
Yn ôl Morys Gruffydd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd, dydyn nhw “byth yn cynllunio i wneud colled” ac mae’n gobeithio bod yr “arbedion sylweddol” a wnaed eleni yn sicrhau bod yr ŵyl yn cael ei “hariannu”.
“Mae’r mynediad i’r Maes am ddim, ond mae bandiau braich yn cael eu gwerthu i oedolion er mwyn dod i’r cystadlu, ac mae mwyafrif helaeth o’n hymwelwyr ni yn mynychu oherwydd y cystadlu, felly rydyn ni’n gobeithio adennill rhywfaint o’r incwm y bydden ni’n ei gael drwy’r tocynnau,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae yna arbedion yn cael ei wneud hefyd drwy ddefnyddio adeiladau parhaol. Dydyn ni ddim yn gorfod codi cymaint o strwythurau dros dro a dydyn ni yn gorfod rhoi trac-fyrddau i lawr, felly mae yna arbedion sylweddol wedi eu gwneud.
“Rydyn ni wedi trefnu ar gyfer Eisteddfod lwyddiannus a llewyrchus,” meddai wedyn.
Meysydd parhaol – ‘y drafodaeth yn parhau’
Y llynedd, fe ddatgelodd golwg360 fod yr Urdd yn ystyried symud yr Eisteddfod tuag at safleoedd parhaol.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Morys Gruffydd yn dweud bod y drafodaeth “yn dal i fynd yn ei blaen”, ac nad yw’r mudiad wedi penderfynu pa un ai i gadw’r ŵyl yn un symudol ai peidio.
“Does dim llawer o symud wedi bod, i fod yn hollol onest, felly o ran adran yr Eisteddfod, rydyn ni’n gallu parhau i weithio ar y dybiaeth ein bod ni’n parhau i symud am y dyfodol mor bell ag yr ydyn ni’n gallu rhagweld,” meddai.