Mae Cyril Ramaphosa wedi tyngu llw wrth iddo ddechrau ar gyfnod o bum mlynedd yn arlywydd De Affrica.
Fe fu yn ei swydf ers i Jacob Zuma golli’r swydd y llynedd yn dilyn honiadau o lygredd o fewn plaid yr ANC.
Fe wnaeth yr arlywydd dyngu llw fore heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25) gerbron oddeutu 30,000 o bobol mewn stadiwm yn Pretoria.
Enillodd yr ANC 57.5% o’r bleidlais, eu perfformiad gwaethaf ers iddyn nhw ddod i rym ar ôl aparteid yn 1994.
Mae Cyril Ramaphosa wedi ymddiheuro wrth drigolion y wlad am y llygredd honedig, ac mae e wedi addo mynd i’r afael â’r sefyllfa sydd wedi niweidio’r economi.