Mae’r Pentagon – pencadlys amddiffyn yr Unol Daleithiau – yn cyflwyno cynllun i’r Tŷ Gwyn heddiw (Dydd Iau, Mai 23) i ddanfon 10,000 mwy o filwyr i’r Dwyrain Canol.
Y bwriad yw cryfhau eu hamddiffynfa yn erbyn bygythiadau o Iran, yn ôl swyddogion yr Unol Daleithiau.
Nid does penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud ac nid yw’n glir os y bydd y Tŷ Gwyn yn cymeradwyo’r cynllun.
Nid yw’r cynllun yn ymateb i unrhyw fygythiad newydd o Iran, yn ôl swyddogion, ond yn hytrach er mwyn sicrhau bod diogelwch yno.
Fe fyddai unrhyw symudiad i ddanfon mwy o filwyr i’r Dwyrain Canol yn arwydd o newid gan arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, sydd wedi pwysleisio dro ar ôl tro bod angen lleihau presenoldeb milwyr yn y rhanbarth.
Mae tensiynau rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu ar ôl i Donald Trump feirniadu Iran am newid ei pholisïau niwclear, gyda phryder ynglŷn â gwrthdaro milwrol wedi dod yn bosibilrwydd.
Yn dilyn cyfarfodydd ddydd Mawrth (Mai 21) dywed yr Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo, ac Ysgrifennydd Amddiffyn dros dro Patrick Shanaham mai’r gôl yw atal Iran ac osgoi’r sefyllfa i ddwysau.