Mae Google wedi atal Huawei rhag diweddaru rhai rhannau o’i feddalwedd Android sy’n cael ei ddefnyddio ar ffonau’r cwmni.
Mae’n golygu nad yw’r cwmni technoleg o Tsieina yn gallu defnyddio apiau ar ei ffonau mwyach.
Mae Google yn dweud ei fod wedi cymryd camau i “gydymffurfio gyda chamau diweddar llywodraeth yr Unol Daleithiau.”
Mae Huawei yn un o nifer o wneuthurwyr ffôn sydd yn defnyddio system Android gan Google ar ei ffonau a thabledi.
Nid yw’r cwmni nawr yn gallu defnyddio apiau fel Maps a Gmail ac ni fydd gan Huawei fynediad at ddiweddariadau diogelwch.
Fe fydd cwsmeriaid Huawei yn gallu diweddaru eu ffonau ac apiau, ond ni fydden nhw’n gallu diweddaru’r ffonau i fersiwn ddiweddaraf Android.
“Cydymffurfio a’r Unol Daleithiau”
Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, eisoes wedi gwahardd Huawei o rwydweithiau’r wlad oni bai ei fod yn cael caniatâd y llywodraeth.
Nid oes gan gwmnïau tramor sy’n dueddol o gyflwyno “peryglon annerbyniol” i ddiogelwch cenedlaethol fynediad yno mwyach.
Yn y cyfamser, mae cyn-gyfarwyddwr strategaeth y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yn dweud fod “rhaid” i wledydd Prydain gydnabod cryfder safbwynt yr Unol Daleithiau ar Huawei.